Addysg Feithrin / Nursery Education
Croeso / Welcome

Darpariaeth 15 awr yr wythnos, sef tair awr y dydd, pump bore'r wythnos (9:00 yb - 12:00 yp), a gynigir gan yr ysgol yn unol â darpariaeth statudol yr Awdurdod Lleol. Cynigir darpariaeth bob prynhawn trwy'r cwmni 'Flourish', os oes angen.
Mae Addysg Feithrin ran-amser ar gael o fis Medi'r flwyddyn academaidd mae'r plentyn yn troi'n 4 oed. Mae llefydd amser llawn yn cael eu darparu ar gyfer plant sydd wedi cael eu pen-blwyddi'n 4 oed yn ystod y tymor ar ôl iddynt droi yn 4 mlwydd oed.
In line with Local Authority statutory provision, school will provide 15 hours of nursery education each week, three hours a day, five days a week (9:00 am - 12:00 pm). Provision is available each afternoon through a private company, namely 'Flourish', if needed.
Nursery Education is provided part time from the September i.e. the start of the academic year in which the child turns 4. Full time places are provided the term after the child turns four.
Mynegi Diddordeb
Cliciwch yma i gwblhau ffurflen i fynegi diddordeb yn ein hysgol ni. Bydd manylion eich plentyn yn cael eu hychwanegu at ein rhestr darpar disgyblion.
Expression of Interest
Click here to complete an expression of interest form for our school. Your child's details will then be entered on to our register of prospective new pupils.
Prosbectws yr Ysgol 2022-2023 / School Prospectus 2022-2023
Llawlyfr y Meithrin / Nursery Handbook
Llyfryn 'Dechrau Ysgol' RCT / RCT 'Starting School' Booklet
__________________________________
Mae Gofal Plant Flourish.Cymru Childcare yn darparu gofal cofleidiol ar safle’r ysgol. Cynigiwn ofal am bum brynhawn yr wythnos i’r plant sydd yn rhan amser yn nosbarth Meithrin YGGG Llantrisant.
Rydym yn rhan o’r cynllun ‘Cynnig Gofal Plant Cymru’ sydd yn cynnig hyd at 15 awr o ofal wedi eu hariannu.
Am fwy o wybodaeth, neu sgwrs am sut allwn eich helpu, cysylltwch â natalie.hughes@flourish.cymru
Gofal Plant Flourish.Cymru Childcare provides wrap around care on the school site. We offer care five afternoons a week for the children who are part time in the Nursery class at YGGG Llantrisant.
We are part of the 'Childcare Offer for Wales’ scheme which offers up to 15 hours of funded care.
For more information, or a conversation about how we can help you, please contact natalie.hughes@flourish.cymru
__________________________________
Cynnig Gofal Plant Cymru
Menter gan Lywodraeth Cymru yw'r Cynnig Gofal Plant, sy'n cynnig darpariaeth gofal plant ac addysg wedi'i chyllido am hyd at 30 awr yr wythnos i deuluoedd sy'n gweithio ac sydd â phlant 3 a 4 oed.
I wneud cais, dylai rhieni / cynhalwyr fynd i www.rctcbc.gov.uk/cynniggofalplant a chlicio ar y ddolen i rieni.
Childcare Offer Wales
This is a Welsh Government initiative that offers working families of 3 and 4 year olds up to 30 hours per week of combined FPN education and additional funded childcare.
To apply for the offer, parents / carers should go to www.rctcbc.gov.uk/childcareoffer and click on the parent link.
Cynnig Gofal Plant Cymru / Childcare Offer Wales
Os bydd unrhyw gwestiynau gennych ynghylch y cynnig uchod, cysylltwch â 01443 744026 / 744094 neu ebostiwch rctchildcareofferforwales@rctcbc.gov.uk
Should you have any questions regarding the above offer, please contact 01443 744026 / 744094 or email rctchildcareofferforwales@rctcbc.gov.uk