Mynediadau a Threfniadau / Admissions and Organisation
Os hoffech i'ch plentyn fynychu ein hysgol, gweler manylion mynediadau yn y ddogfen isod.
Should you wish your child to attend our school, see admission arrangements in the document below.
Derbyn Disgyblion i’r Ysgol
Cynigir lleoedd i ddisgyblion yn yr Ysgol yn ôl meini prawf Awdurdod Addysg Rhondda Cynon Taf a nodir yn y fersiwn diweddar o’u llyfryn “Dechrau Ysgol”. Trefnir y dosbarthiadau yn ôl oedran y plentyn. Nid oes sicrwydd y bydd carfannau o blant yn aros gyda’i gilydd o flwyddyn i flwyddyn wrth iddynt deithio i fyny’r ysgol. Ar adegau, bydd dosbarthiadau oedrannau cymysg yn yr ysgol. Yn gyffredinol, y plant hynny sy’n byw yn nhalgylch draddodiadol yr ysgol fydd yn cael cynnig lleoedd gyntaf. Dosberthir lleoedd drwy gymhwyso y meini prawf a ganlyn :
Categori Blaenoriaeth 1:
Plant dan adain gofal yr Awdurdod (mewn gofal cyhoeddus) a phlant sydd wedi bod dan adain gofal yr Awdurdod yn y gorffennol.
Categori Blaenoriaeth 2:
Plant sy'n byw yn nalgylch yr ysgol, sydd â brawd neu chwaer hyˆn sy'n ddisgybl yn yr ysgol honno ac sy'n byw yn yr un cartref pan fydd y cais yn cael ei gyflwyno ac a fydd yn parhau i fynychu'r ysgol ym Medi 2022.
Categori Blaenoriaeth 3:
Plant sy'n byw yn nalgylch yr ysgol ond sydd heb frawd neu chwaer hŷn sy'n ddisgybl yn yr ysgol honno.
Categori Blaenoriaeth 4:
Plant sy'n byw y tu allan i ddalgylch yr ysgol, sydd â brawd neu chwaer hŷn sy'n mynychu'r ysgol honno'n barod ac sy'n byw yn yr un cartref â nhw pan fydd y cais yn cael ei gyflwyno ac a fydd yn parhau i fynychu'r ysgol ym Medi 2022.
Categori Blaenoriaeth 5:
Plant sy'n byw y tu allan i ddalgylch yr ysgol sydd heb frawd neu chwaer hŷn sy'n ddisgybl yn yr ysgol honno.
Os oes lleoedd ar gael, gall yr ysgol gynnig addysg rhan amser o ddechrau y tymor yn dilyn penblwydd y plentyn yn dair oed. Fel arall, gall plant tair oed a drosodd dderbyn addysg o’r Medi yn y flwyddyn academaidd pryd y byddant yn bedair oed.
Cedwir rhestr aros o enwau plant sydd yn dymuno lle yn yr ysgol, ac annogir rhieni i roi enw eu plentyn ar y rhestr hon mor fuan â phosibl ar ôl iddo/iddi gael ei eni/geni. Mae hyn yn helpu blaengynllunio ac yn galluogi’r ysgol i gysylltu â rhieni yn rhwydd wrth i amser dechrau’r ysgol agosau, ond nid yw’n sicrhau lle yn yr ysgol. Dim ond yr Awdurdod Lleol sydd â'r gallu i gynnig lle yn yr ysgol i ddisgybl.
Dylai rhieni sy’n ansicr ynghylch talgylch yr ysgol neu’r meini prawf gysylltu â’r ysgol a / neu Adran Mynediadau Disgyblion, Addysg a Dysgu Gydol Oes, Tŷ Trevithick, Abercynon, Aberpennar, Rhondda Cynon Taf, CF45 4UQ (Ffôn 01443 744000)
Admitting Pupils to School
Pupils are offered places at the School according to Rhondda Cynon Taf Education Authority’s admissions criteria as stated in the current version of their “Starting Schools” booklet. All classes are arranged strictly by date of birth. It is not guaranteed that cohorts of children will move up through the school, year on year, together. At times, we have mixed age classes at school. Generally, the children who live in the school’s traditional local area will be offered the available places first. Places will be allocated by applying the following criteria :
Priority Category 1:
Children 'Looked After' (children in public care) & children previously 'Looked After'.
Priority Category 2:
Children whose home is inside the school’s catchment area and have an older sibling attending the school from the same address, at the date of application, who will continue to attend that school in September 2022.
Priority Category 3:
Children whose home is inside the school’s catchment area who do not have an older sibling attending the school.
Priority Category 4:
Children whose home is outside the school’s catchment area and have an older sibling attending from the same address, at the date of application, who will continue to attend that school in September 2022.
Priority Category 5:
Children whose home is outside the school’s catchment area who do not have an older sibling attending the school.
If places are available, the school may be able to offer part time education from the beginning of the term following the child’s third birthday. Otherwise, children aged three years and over usually access education from the September of the academic year they attain the age of four.
A waiting list of children wishing to have a place at the school is kept and parents are encouraged to place their child’s name on this list as soon as possible after he / she has been born. This helps with forward planning, enables the school to contact parents easily as the time to start school approaches, but does not guarantee a place at the school. Only the Local Authority has the ability to offer a place at school to any pupil.
Parents unsure about the school’s catchment area or the criteria for entry should contact the school and / or Pupil Admissions Department, Education and Lifelong Learning, Tŷ Trevithick, Abercynon, Mountain Ash, Rhondda Cynon Taf, CF45 4UQ (Telephone 01443 744000)
---------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Mynegi Diddordeb
Cliciwch yma i gwblhau ffurflen i fynegi diddordeb yn ein hysgol ni. Bydd manylion eich plentyn yn cael eu hychwanegu at ein rhestr darpar disgyblion.
Expression of Interest
Click here to complete an expression of interest form for our school. Your child's details will then be entered on to our register of prospective new pupils.
---------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Addysg Feithrin
Mae'r ysgol yn cynnig hanner diwrnod o addysg feithrin - 15 awr yr wythnos, 9:00yb tan 12:00yp bob dydd. Mae’r Bwrdd Llywodraethu yn adolygu trefniadau’r Dosbarth Meithrin yn flynyddol wedi i‘r ysgol dderbyn y gyllideb newydd fis Ebrill. Bwrwch olwg dros y dudalen hon am ragor o wybodaeth.
Nursery Education
School offers a half day Nursery provision - 15 hours a week 9:00am to 12:00pm each day. The Governing Body reviews these arrangements annually once the school receives its budget in April of each year. Please visit this page for further information.
Strwythur y Dosbarthiadau
Trefnir pob dosbarth yn yr ysgol tua diwedd y flwyddyn addysgol a hysbysir rhieni o ddosbarthiadau newydd eu plant pan ddosberthir Adroddiadau Blynyddol fis Gorffennaf bob blwyddyn. Mae niferoedd a threfniadau’r dosbarthiadau yn dibynnu ar y nifer o blant Blwyddyn 6 fydd yn ein gadael ni a’r nifer o blant oedran Meithrin fydd yn ymuno â ni. Trefnir y disgyblion gan ddilyn y meini prawf oedran geni. Ni ddefnyddir rhyw plentyn fel un o'r meini prawf. Bydd dosbarthiadau oedran cymysg ar draws yr ysgol ar adegau a nid yw’n bosibl sicrhau y bydd grwpiau/dosbarthiadau o blant yn symud gyda’i gilydd o un dosbarth i’r llall ar gyfer y flwyddyn addysgol newydd.
Class Structures
Class structures are discussed and planned towards the end of each academic year and parents are informed of their children’s new classes when End of Year Reports are distributed during the month of July each year. Pupil numbers and class organisation depends on the number of Year 6 pupils leaving the school and the number of Nursery aged children joining us. The classes are arranged using the children’s date of birth as the criteria. Gender is not used as one of the criteria. There will always be mixed age group classes throughout the school and it is not possible to guarantee that the groups of children/classes move on block, together to the next class for the ensuing academic year.